Mis diwethaf roeddwn i'n trafod Taswn i -, Mi faswn i -,
a pha mor anodd ydy hi i ddefnyddio'r patrwm yna heb sôn
am y lotri. Mi roddais i ddwy enghraifft i chi a dwi i newydd
meddwl am un arall.
Mae dyn yn mynd at y fferyllydd, (rhag ofn i ni gymysgu y
cymeriadau yn y stori a rhag ofn i ni fod yn hiliol mi wnawn
ni ei alw fo yn Gymro) mae gan y Cymro broblem bersonol ac
mae o'n chwilio am rywbeth arbennig a fydd yn datrys y broblem
neu o leiaf i wneud iddo fo deimlo'n fwy cyfforddus. Achos
bod gynno fo gymaint o embaras dydy o ddim eisiau gofyn i
un o'r genod lle yn y siop mae'r peth arbennig yma ond mae
o wedi bod yn chwilio ac yn chwilio a dydy o ddim yn gweld
y peth yn unman. O'r diwedd gwelodd o un o'r dynion oedd yn
gweithio yn y siop.
"Esgusodwch fi" meddai 'r Cymro, "fedrwch
chi ddweud wrtha i ble dach chi'n cadw'r powdwr talcwm."
"Wrth gwrs," meddai'r dyn, "cerddwch ffordd
hyn."
"Brensiach annwyl," meddai'r Cymro, "taswn
i'n cerdded ffordd yna baswn i ddim angen y powdwr talcwm"
(Un o jôcs y diweddar Arthur Askey ond mi oedd o yn
dweud y jôc yn Saesneg ac yn llawer gwell).
Beth bynnag ar ôl y nonsens yna dyma rhywbeth arall
Diwrnod Llai na Pherffaith
Mi wnes i godi yn gynnar, roedd yr haul yn tywynnu a diwrnod
braf o'm blaen. Taflu'r dillad i'r peiriant golchi a chael
brecwast cyn cerdded i lawr i'r dref i nôl y papur.
Roeddwn i eisiau mynd allan ar y beic heddiw felly agorais
y map ar y bwrdd i chwilio am le newydd i chwilota. Dyma ni,
lôn hir yn mynd trwy goedwig ac i fyny i'r mynyddoedd.
Taith o ryw deg milltir, taith a her ynddi hefyd, ugain milltir
i gyd achos maen rhaid dod yn ôl wrth gwrs.
Tynnais y dillad allan o'r peiriant golchi a'u rhoi nhw allan
i sychu ar y balconi. Fyddan nhw'n iawn yna tra mod i allan.
Rhoddais y beic ar gefn y car ac i ffwrdd a mi tuag at Langurig
a dechrau'r daith. Parciais y car mewn cilfach a dechreuais
y reid. Roedd y lôn yn gul ac yn serth ac roeddwn i'n
chwysu ac yn pwffian i fyny ond doedd dim car na neb i'w weld,
hyfryd iawn. Ar ôl pedair milltir dyma fi yn dw^ad at
ben y mynydd a grid gwartheg. Wrth fynd dros y grid gwelais
yr arwydd yn dweud bod y lôn o'r fan yna ar gau achos
y clwyf traed a genau. Eisteddais ar ochr y lôn wedyn
i gael picnic cyn mynd yn ôl at y car. Roedd yr olygfa
yn wych - mynyddoedd moel yn ymestyn at y gorwel, dim ty^,
dim lôn i'w weld a'r haul yn gynnes. Penderfynu dychwelyd
unwaith mae pethau yn ôl at normalrwydd.
Yn ôl ar y beic wedyn a reidio i lawr y lôn,
Dim chwys y tro yma - yn wir rw^an roeddwn i'n oer ofnadwy
- ond dyna fo, dyna seiclo ynte!
Cyrraedd adref ac eistedd ar y balconi yn cadw cwmni i'r
dillad yn sychu a darllen llyfr (fi oedd yn darllen y llyfr
wrth gwrs nid y dillad), roedd yr haul yn gynnes a finnau
yn dechrau mynd i gysgu pan welais gysgod yn symud yn gyflym
drosof a 'sblatt'. Diolch byth doeddwn i ddim yn eistedd lle
oedd y dillad ond roedd rhaid rhoi'r jeans yn ôl yn
y peiriant golchi.
A rw^an dwi i'n mynd i gael gair efo'r cymdogion a gofyn
iddyn nhw beidio rhoi prunes allan i'r adar!
Wel na doedd y diwrnod ddim yn hollol berffaith ond o leiaf
mae o wedi rhoi cyfle i mi sgwennu rhywbeth yntydi?
|