MainHeader
Wennol Photography 
www.wennol.co.uk
 
Home
I
About me
I
Links
I
Contact
I
Retail Sales
I
Ramblings
 
Diolch byth am Dreigliadau

 

Diwrnod o’r blaen mi oeddwn i’n gwrando ar gyfweliad ar Radio Cymru ynglyn â bagiau plastig. Y cwestiwn oedd a yw’r gostyngiad yn nefnydd y bagiau plastig i wneud a newid agwedd y cyhoedd am ofalu am yr amgylchedd neu yn hytrach, ac yn fwy syml, mater o gost?

Mae’n rhaid i mi fod yn onest mi oeddwn i’n meddwl bod y cwestiwn braidd yn wirion ond efallai doedd dim byd arall yn y newyddion ar y diwrnod hwnnw. I mi roedd y ffaith bod dim bagiau yn y golwg ac roedd rhaid gofyn a thalu amdanyn nhw yn atgoffa'r cyhoedd i wneud yn siwr eu bod nhw’n cadw bagiau siopa yn y car trwy’r amser. Gan fod rhan fwyaf ohonon ni yn poeni am yr holl wastraff sydd yn cael ei gynhyrchu mi oedd y ddeddf newydd llynedd yn drobwynt ac ar ôl ychydig o wythnosau roedd yr holl beth yn reddfol.

Beth bynnag yn ôl at y cyfweliad. Doedd yr arbenigwr ddim yn hollol siwr am yr ateb ond dywedodd -

“Wel, dw i’n siwr bod ‘na lawer o ‘carrot and stick’ i wneud a’r peth.”

Roedd y sgwrs wedi bod heb lawer o Saesneg i fynny at y pwynt yma a ro’n i braidd yn siomedig am y peth tan i mi ddechrau meddwl am y cyfieithiad sef ‘moron a phric’. Ia, wel!

Diolch byth am dreigliadau!

 

Copyright 2004 - 2015 Wennol Photography all rights reserved