Y gwaith cyntaf ges i
ar ôl gadael yr ysgol oedd yn y banc, Banc y National Provincial
ac os dach chi’n cofio’r NP does dim ffordd i chi fynnu
bellach eich bod chi’n ifanc. Beth bynnag ar ôl treulio
blwyddyn yn gweithio ar gyfrifon personol (llyfrau cyfrifon trwm,
pob cofnod yn cael ei wneud mewn inc a phob swm yn cael ei wneud
yn eich pen.) mi wnes i ddechau ar y cownter. Os oedd rhywun yn
talu arian parod ac arian papur i mewn roedd tipyn o waith cyfri
i wneud. Roedd pethau yn llawer haws os oedd rhywun yn talu sieciau
i mewn yn unig. Doedd dim ond rhaid cadarnhau bod y sieciau wrth
law yn cyfateb i’r rhestr ar gefn y slip, stampio’r
llyfr a dyna ni. Gwaith llai ‘na munud.
Mae bron hanner can mlynedd
wedi mynd heibio erbyn hynny ac mae technoleg wedi datblygu yn aruthrol.
Pan es i i’r banc ychydig o ddyddiau yn ôl i dalu dau
siec i mewn mi o’n i’n sefyll wrth y cownter am bron
pum munud tra oedd yr ariannwraig yn cwblhau’r holl waith.
Tydan ni wedi symud ymlaen!
|